GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws

By: Dr Hanna Hopwood
  • Summary

  • "Croeso i bodlediad Dr Hanna Hopwood sy'n rhoi blas ar sut y gall maes coaching eich cefnogi a Gwneud Bywyd yn Haws!'
    Dr Hanna Hopwood
    Show More Show Less
Episodes
  • Byw Bywyd Bwriadol | 12
    Jan 15 2025
    Beth mae 'byw bywyd bwriadol' yn ei olygu? A sut y gallwn ddechrau gwneud hynny?
    Show More Show Less
    16 mins
  • Cynllunio ein un bywyd gwyllt a gwerthfawr... | 11
    Jan 1 2025
    Ym mhennod gyntaf 2025, cyfle i ystyried beth sy'n gallu ein helpu ar ddechrau cyfnod newydd? Beth yw rhai o'r pethau y gallwn eu hystyried? Sut gallwn sicrhau ein bod ni'n cymryd camau tuag at ein gobeithion mewn modd cynaladwy? Yn ystod y bennod hon, mae Hanna hefyd yn trafod y dyfyniad enwog o gerdd Mary Oliver sy'n aml yn cael ei gam-ddehongli: 'Tell me, what is it you plan to do with your one wild and precious life?'. Sut gall ystyried ystyr wreiddiol y dyfyniad ein helpu yn ystod y tymor hwn? Gwrandewch i ddarganfod mwy!
    Show More Show Less
    22 mins
  • Teimladau’r Tymor: Crynhoi Cyfres Un | 10
    Dec 18 2024
    Cyfle i grisialu rhai o’r teimladau sy’n gallu codi ar ddiwedd blwyddyn, yng nghanol tymor hynod o lawn. Ond - os ydych chi’n gwrando ar y bennod ar adeg wahanol o’r flwyddyn - na phoener! Mae digon o bethau yma i fyfyrio drostynt wrth i Hanna ein tywys drwy rai o brif bwyntiau cyfres gyntaf podlediad GBYH. Mwynhewch!
    Show More Show Less
    38 mins

What listeners say about GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws

Average customer ratings

Reviews - Please select the tabs below to change the source of reviews.